Gorsaf reilffordd Pilning

Mae Gorsaf reilffordd Pilning yn orsaf ar brif linell De Cymru ger Pilning, De Swydd Gaerloyw, 10 milltir o Fryste, yr orsaf olaf cyn Twnnel Hafren. Rheolir yr orsaf gan Reilffordd y Great Western. Mae 2 drên yn unig o’r orsaf bob wythnos.

Yr orsaf a'r reilffordd at Twnnel Hafren
Trên GWR yn pasio Pilning yn 2018

HanesGolygu

Agorwyd gorsaf ym 1863 gan Reilffordd Bryste a De Cymru, ond symudwyd yr orsaf ym 1886 pan agorwyd Twnnel Hafren. Roedd gan yr orsaf iard nwyddau mawr, ac roedd gwasanaeth Motorail i Gymru.

Ailagorwyd yr orsaf wreiddiol ar Linell Traeth Hafren, yn caniatáu cyrhaeddiad teithwyr a nwyddau i Dociau Avonmouth hyd at 1964.

Caewyd yr iard nwyddau ym 1965, a dymchwelwyd adeiladau’r orsaf. Roedd ond 2 drên yn ddyddiol erbyn y 70au, ac ond 2 drên yn wythnosol o 2006 ymlaen.Dymchwelwyd y bont rhwng y platfformau yn 2016, a dim ond trenau i’r dwyrain yn defnyddio’r orsaf erbyn hyn.


Dolenni allanolGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.